Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

Wales / Cymru

Mabwysiadu Dosbarth 2014-2015

Date: 
Monday, 28 April, 2014 - 01:00 to Friday, 25 September, 2015 - 01:00
Region: 
Wales / Cymru
Location: 
Cymru

 

Bwriad y cynllun 'Mabwysiadu Dosbarth', sydd eisoes wedi ennill gwobr, yw creu cyswllt rhwng myfyriwr israddedig, sydd ar fun mynd ar ei blwyddyn dramor, a dosbarth o ddisgyblion blwyddyn 8 yn ystod tymor olaf y flwyddyn academaidd. Bydd y myfyriwr yn ymweld â'r dosbarth i wneud sgwrs ac i drafod pwysigrwydd ieithoedd, eu profiadau gydag ieithoedd a'r cyfleoedd maent wedi cael o ganlyniad i'w sgiliau iaith. Yna fe fydd y myfyriwr yn mynd ar ei blwyddyn dramor ac yn cadw cysylltiad rheolaidd gyda'r dosbarth (erbyn hyn ym mlwyddyn 9) trwy ddanfon e-byst, cardiau post, adnoddau a thrwy ysgrifennu blogiau ayyb.

 

Mae'r cyswllt hwn gyda gwlad dramor yn dod a'r iaith yn fyw i'r disgyblion ac yn dangos iddynt hwy bwysigrwydd dysgu iaith. Cyn ymadael, mae'r myfyriwr yn trafod gyda'r athro unrhyw bynciau penodol fydd yn cael eu hastudio fel bod yr adnoddau a ddanfonir yn berthnasol. Wedi dychwelyd mi fydd y myfyriwr yn ymweld â'r dosbarth (nawr ym mlwyddyn 10) i drafod eu profiadau ac i ateb unrhyw gwestiynau. Mae'n bwysig nodi hefyd y bydd yr holl gyfathrebu yn digwydd rhwng yr athro a'r myfyriwr, ni fydd y myfyrwyr fyth mewn cyswllt uniongyrchol gyda'r disgyblion.

 

Ar hyn o bryd mae yna 9 o fyfyrwyr mewn cysylltiad ag 9 o ysgol De Cymru ac mae yna lawer mwy hefyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru.

 

Os oes gennych unrhyw ddiddordeb yn y cynllun yma neu unrhyw un arall, cysylltwch ag Ani Saunders:

Ebost: ani.saunders@ciltcymru.org.uk

Ffôn: 029 20265408

Pages