Am y tro cyntaf eleni, mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru, ar y cyd â CILT Cymru, yn cynnal seremoni wobrwyo i athrawon Ieithoedd Tramor Modern.
Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag ysgolion a cholegau, ac yn barod yn ymwybodol o’r cyfoeth o athrawon arloesol a brwdfrydig sydd ar hyn o bryd yn dysgu ieithoedd yng Nghymru, ac rydym yn llawn cyffro fod gennym gyfle i gydnabod hyn drwy ein gwobrau. Rydym yn gobeithio y bydd y gwobrau hyn hefyd yn codi proffil dysgu ieithoedd, gan annog mwy o bobl i ystyried yr alwedigaeth hon o ddifri. Yn olaf, bydd y gwobrau hyn yn cynnig cyfle i ddisgyblion a myfyrwyr gymeradwyo gwaith ysbrydoledig eu hathrawon iaith.
Fe fydd yna bedwar categori:
Athro ITM y Flwyddyn 2013 | Meini Prawf Allweddol | Taflen Enwebi |
Athro ITM Cynradd y Flwyddyn 2013 | Meini Prawf Allweddol | Taflen Enwebi |
Athro ITM Dan Hyfforddiant Mwyaf Addawol 2013 | Meini Prawf Allweddol | Taflen Enwebi |
Mentor TAR Mwyaf Ysbrydoledig 2013 | Meini Prawf Allweddol | Taflen Enwebi |
Cliciwch ar y dolennu uchod i ddarllen mwy am y categorïau gwahanol ac hefyd y broses beirniadu gan fydd hwn yn amrywio o wobr i wobr. Mae modd hefyd i chi lawr-lwytho’r taflennu enwebi ar gyfer pob gwobr o’r dolennu uchod.
Gellir anfon enwebiadau atom hefyd drwy routescymru@ciltcymru.org.uk neu yn y post at:
Gwobrau Rhagoriaeth Mewn Dysgu Ieithoedd 2013
Llwybrau at Ieithoedd Cymru
245 Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd CF5 2YX
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 24 Mai 2013.
Bydd yr enillwyr yn cael gwybod erbyn 25 Mehefin ac yn cael ei gwahodd i gasglu’r wobr yng Nghynhadledd CILT Cymru yn Llandrindod ar 2 Gorffennaf 2013.