Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

Cyfle am Gyllideb

Date: 
Thursday, 29 April, 2010 - 01:00 to Saturday, 31 July, 2010 - 01:00
Region: 
Wales / Cymru

Yma yn Llwybrau at Ieithoedd Cymru rydym yn ymwybodol fod y nifer o ddisgyblion sy’n dewis ITM ar gyfer CA4 a thu hwnt yn gostwng. Rydym ni yma i wneud popeth y gallwn i helpu newid y sefyllfa ac i ddangos i bobl ifanc y pwysigrwydd o allu siarad iaith arall.

Gwyddom fod athrawon eisoes yn gweithio’n galed iawn i hyrwyddo dysgu ieithoedd, a hoffwn i gael y disgyblion yn rhan o hyn hefyd. Pwy allai fod yn well yn hyrwyddo ieithoedd o fewn yr ysgol/coleg na’r disgyblion sydd wedi dewis eu hastudio yn barod?

Mae cyllideb ar gael gan Lwybrau Cymru i gefnogi ysgolion i gynnwys pobl ifanc mewn prosiectau a fydd yn codi proffil ITM ac yn cynorthwyo i godi nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd yn eu hysgolion/colegau.

I drafod prosiectau posib neu am wybodaeth bellach, cysylltwch â thîm Llwybrau Cymru ar routescymru@ciltcymru.org.uk neu 029 2048 0137.