Bydd Seremoni Wobrwyo Ryngwladol 2011 yn dathlu arfer ysbrydoledig sy'n arwain y sector o ran rhoi'r Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg ar waith. Gwahoddir yr ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rownd derfynol i'r seremoni ei hun a gynhelir dros ddiwrnod, gyda gweithdai diwylliannol ac ieithyddol i athrawon a disgyblion yn ystod y bore a'r seremoni wobrwyo ei hun yn y prynhawn.
Cymhwysedd:
• Mae pob ysgol yng Nghymru yn gymwys i wneud cais ar gyfer y gwobrau hyn
Meini prawf:
• Gall ysgolion enwebu eu hunain neu gael eu henwebu gan bobl allanol.
• Rhaid cyflwyno enwebiadau drwy gwblhau ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 30 Medi 2011 i wales.enquiries@britishcouncil.org
• Noder nad yw achrediad Dyfarniad Ysgolion yn sicrhau llwyddiant eich cais - er bod y Dyfarniad a'r Seremoni Wobrwyo yn cydnabod gwaith tebyg maent yn gweithredu fel endidau ar wahân
Caiff y gwobrau eu dyfarnu gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r British Council, rhwydwaith Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg Cymru a CILT Cymru. Gwahoddir yr ysgolion sy'n cyrraedd y rhestr fer i ddod â disgyblion i weithdai cyn cyflwyno'r gwobrau. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos yn dechrau 10fed o Dachwedd 2011