Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

Hoffech chi greu Si am ieithoedd yn eich ysgol chi?

Date: 
Tuesday, 24 August, 2010 - 01:00 to Saturday, 30 July, 2011 - 01:00
Region: 
Wales / Cymru

Mae cystadleuaeth y Spelling Bee wedi cychwyn ers amser ac mae ysgolion ledled y wlad wedi bod yn cynnal eu cystadlaethau dosbarth. I’r rheiny ohonoch sydd wedi anfon enillwyr y Gystadleuaeth Ddosbarth a’r rheiny yn yr ail safle, bydd tystysgrifau yn dod yn fuan atoch. Os nad ydych wedi anfon yr enwau eto, a fyddwch gystal â gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

Clywn eich bod yn cael llawer o hwyl yn dysgu’r geiriau ac mae nifer o wahanol ffyrdd o wneud hyn yn cael eu defnyddio yn sesiynau adolygu’r Spelling Bee. Mae Ysgol Bryn Eilian yn wedi bod yn hynod o ragweithiol ac wedi dechrau clwb ar ôl ysgol ar gyfer y Spelling Bee. Mae Miss Lisa Roberts, yn garedig iawn, wedi ysgrifennu darn sy’n rhannu ei phrofiad gyda chi gyd. Ewch i’n tudalen Newyddion i ddarllen hwn.

Y cam nesaf yw’r gystadleuaeth ysgol sydd wrth gwrs yn golygu cyflwyno 50 o eiriau newydd. Mae’r PowerPoint ar gyfer y geiriau hyn nawr ar gael i’w lawr lwytho. Pob Lwc!

Yn seiliedig ar y cynigion yr ydym eisoes wedi derbyn, rydym yn medru creu dwy ffin ranbarthol ar gyfer y Cystadlaethau Rhanbarthol i’w cynnal ym mis Mawrth/Ebrill. Mae’r rhanbarthau fel y ganlyn:

Gogledd Cymru (Gwynedd a Sir Fôn, Gogledd Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Gogledd Powys)
De Cymru (De Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, De Powys, Castell Nedd a Phort Talbot, Pen y Bont, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful, Caerffili, Caerdydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy)

Byddwn yn cysylltu gyda chi fel rhanbarthau er mwyn eich cynghori ar ddyddiad a lleoliad y cystadlaethau.