Yma yn Llwybrau at Ieithoedd Cymru rydym yn ymwybodol fod y nifer o ddisgyblion sy’n dewis ITM ar gyfer CA4 a thu hwnt yn gostwng. Rydym ni yma i wneud popeth y gallwn i helpu newid y sefyllfa ac i ddangos i bobl ifanc y pwysigrwydd o allu siarad iaith arall.
Gwyddom fod athrawon eisoes yn gweithio’n galed iawn i hyrwyddo dysgu ieithoedd, a hoffwn i gael y disgyblion yn rhan o hyn hefyd. Pwy allai fod yn well yn hyrwyddo ieithoedd o fewn yr ysgol/coleg na’r disgyblion sydd wedi dewis eu hastudio yn barod?
Mae cyllideb ar gael gan Lwybrau Cymru i gefnogi ysgolion i gynnwys pobl ifanc mewn prosiectau a fydd yn codi proffil ITM ac yn cynorthwyo i godi nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd yn eu hysgolion/colegau.
I drafod prosiectau posib neu am wybodaeth bellach, cysylltwch â thîm Llwybrau Cymru ar routescymru@ciltcymru.org.uk neu 029 2026 5410.
Os hoffech weld enghreifftiau o brosiectau sydd wedi cael eu hariannu gennym, cliciwch yma.