Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

Seremoni Wobrwyo Ryngwladol

Date: 
Monday, 7 January, 2013 - 00:00 to Saturday, 26 January, 2013 - 00:00
Region: 
Wales / Cymru

Nod y gwobrau hyn yw codi proffil a gwobrwyo cyrhaeddiad a rhagoriaeth wrth addysgu dinasyddiaeth fyd-eang, ieithoedd tramor, a'r dimensiwn rhyngwladol ym maes addysg yng Nghymru. Maent yn cydnabod gwaith rhyngwladol ac arfer gorau mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru.

Mae'r gwobrau yn cydnabod arfer gorau wrth weithio'n rhyngwladol, yn ogystal â'r cyfranogiad ysgol/coleg/cymuned gyfan y gall prosiectau o'r fath arwain ato.

 

Categorïau gwobrau 2012-13 yw:

Gwobr CILT Cymru: Y Defnydd Gorau o Ieithoedd Tramor Modern i Wella'r Dimensiwn Rhyngwladol

Bydd y wobr hon yn dangos arloesedd a sut y mae cynnwys ieithoedd tramor wedi gwella dealltwriaeth myfyrwyr o'r Dimensiwn Rhyngwladol a'u gwaith o'i fewn.

 

Gwobr 'Newydd-ddyfodiad': Ar gyfer Ysgolion/Colegau sy'n newydd i waith rhyngwladol

Bydd y wobr hon yn dathlu ysgolion sydd newydd ddechrau defnyddio'r Dimensiwn Rhyngwladol i ennyn diddordeb dysgwyr ac ymarferwyr, gan ddarparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel sy'n cyfrannu at wneud cynnydd o ran newid canfyddiadau pobl ifanc o ddiwylliannau gwahanol.

 

Defnyddio'r Dimensiwn Rhyngwladol i wella effeithiolrwydd Ysgolion/Colegau

Bydd y wobr hon yn dathlu ysgolion a cholegau sydd wedi defnyddio'r Dimensiwn Rhyngwladol mewn Addysg i sefydlu diwylliant sy'n canolbwyntio ar welliant parhaus, gan ennyn diddordeb arweinwyr ac ymarferwyr ar bob lefel, a'u galluogi i fod yn chwaraewyr allweddol gydag ysgolion, colegau a sefydliadau eraill.

 

Gwobr Ryngwladol Colegau Cymru

Mae'r wobr hon yn cydnabod ymdrechion colegau i gyfoethogi eu profiadau addysgu a dysgu drwy ychwanegu dimensiwn rhyngwladol i'r cwricwlwm

 

Mae'r gwobrau'n agored i bob ysgol a choleg yng Nghymru. Gellir dod o hyd i'r ffurflen gais yma a rhaid ei chyflwyno i iepwales@britishcouncil.org erbyn 25ain Ionawr 2013.

 

Cynhelir y Seremoni Wobrwyo yn ystod yr wythnos yn dechrau 18fed Mawrth a bydd rhagor o fanylion ar gael pan gaiff y rhaglen ei chadarnhau.

 

‘Mae'r prosiect hwn yn rhan o'r Rhaglen Addysg Ryngwladol (IEP) a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rhoi ar waith gan y British Council. Mae'n cwmpasu addysg gynradd, addysg bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU) mewn ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol er mwyn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd addysg ryngwladol er budd gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc yng Nghymru.’