Os nad ydych yn gallu ymuno â ni ar y Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd ond yr hoffech gymryd rhan yn y dathlu, yna peidiwch â phoeni, gallwch wneud hyn!
Yn ôl pob sôn, swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru yw’r hiraf yn Ewrop. Rydym yn bwriadu creu poster amlieithog sy’n ymestyn ar hyd lled y swyddfa docynnau hon. Felly, rydym angen eich help!
Lluniwch posteri A4 o air neu frawddeg mewn iaith sydd ddim yn famiaith i chi.Dylai ceisiadau fod mor lliwgar a dychmygol â phosib. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu’r wybodaeth ganlynol ar y tu ôl:
Enw
Oedran
Ysgol
Mamiaith
Yr iaith a ddewiswyd ar gyfer y poster
Hefyd, hoffem weld unrhyw luniau sy’n dangos faint o hwyl rydych chi wedi’i gael yn llunio’r posteri, fel ein bod ni’n gallu eu rhannu nhw gyda ffrindiau o amgylch y byd ar ein tudalen ‘flickr’.
Dylid anfon pob cais atom ni erbyn dydd Llun, 20 Medi 2010 os ydych eisiau iddynt gael eu cynnwys yn ein cynnig i lunio poster amlieithog hir iawn, iawn, iawn.