Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

GŴYL TRANSEUROPA Cystadleuaeth Farddoniaeth 2011

Date: 
Monday, 7 March, 2011 - 00:00 to Friday, 8 April, 2011 - 01:00
Region: 
Wales / Cymru

Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cefnogi’r Ŵyl Transeuropa. Fel cyfraniad i’r ŵyl rydym yn rhedeg Cystadleuaeth Farddoni ar gyfer myfyrwyr Safon UG ac Uwch.
 

Mae’r Ŵyl Transeuropa yn ŵyl drawsgenedlaethol yn Ewrop. Bydd yn cael ei ddathlu yn gydamserol mewn 12 dinas gan gynnwys Paris, Berlin, Amsterdam, Prag a Chaerdydd. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ŵyl a’r rhaglen, ewch i’n gwefan www.euroalter.com/festival
 

Mae 3 categori; Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg. Mae’n rhaid i’r cerddi ddilyn y thema, CYNALADWYEDD.

Bydd ennillwyr a’r rheiny sydd yn dod mewn safle uchel yn cael eu dewis o bob categori gan banel o feirniaid o CILT Cymru, Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ydy 8 Ebrill 2011.

GWOBR!
Bydd y cerddi yn cael eu harddangos yn yr ŴYL TRANSEUROPA yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter,
Caerdydd ar 7fed Mai 2011
GWOBR!
Bydd enillwyr o bob categori yn cael y cyfle i ddarllen eu cerddi yn yr Ŵyl.
GWOBR!
Bydd tystygrifau yn cael eu dyfarnu i’r enillwyr a’r ceisiadau sy’n cael cymeradwyaeth uchel.

I gystadlu:
Dylai’r athrawon ebostio’r ceisiadau at routescymru@ciltcymru.org.uk,  Pwnc: Cystadleuaeth Farddoni Gŵyl Transeuroapa, yn sicrhau fod y ffurflen ymgeisio wedi ei chwblhau a’I hatodi at bob cais.
 

Mae'r rheolau a'r ffurflen gais yn gallu cael eu lawrlwytho isod.