Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

Mabwysiadu Dosbarth

Date: 
Tuesday, 15 March, 2011 - 00:00 to Friday, 15 April, 2011 - 01:00
Region: 
Wales / Cymru

Cynllun yw ‘Mabwysiadu Dosbarth’ sy'n cyfeillio Myfyriwr Ieithoedd Is-raddedig gyda dosbarth tra bod y myfyriwr ar eu blwyddyn dramor.

Bydd y dosbarth ym Mlwyddyn 8 yn cwrdd â’r myfyriwr yn ystod y flwyddyn academaidd eleni, fel bod y myfyriwr yn gallu cyflwyno eu hunain. Byddant yn siarad am sut beth ydyw i astudio ieithoedd yn y Brifysgol, pan wnaethon nhw ddewis ieithoedd, a'r antur y maent ar fin ei chychwyn - eu blwyddyn dramor!

Yn ystod eu blwyddyn dramor, bydd y myfyriwr yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda'r dosbarth (nawr ym mlwyddyn 9) drwy e-bostio a drwy anfon cardiau post ac adnoddau eraill yn yr iaith darged. Gyda gobaith, bydd y cyswllt hwn â'r wlad yn dod â'r iaith yn fyw i’r disgyblion, ac yn dangos perthnasedd dysgu iaith iddynt. Hefyd, gobeithio y bydd yn annog disgyblion i ystyried iaith o ddifrif fel opsiwn ar gyfer CA4.

Pan fydd y Myfyriwr yn dychwelyd o'r flwyddyn dramor, byddant yn dychwelyd i'r ysgol a’n rhoi cyflwyniad arall i'w dosbarth cyfaill am eu profiadau dramor, ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y disgyblion.

Fel yr Athro/Athrawes Ieithoedd a’r pwynt cyswllt, byddwch yn cael y cyfle i gwrdd â'ch 'Myfyriwr Cyfaill’ a thrafod unrhyw bynciau arbennig a allai gael eu hastudio er mwyn sicrhau bod yr adnoddau perthnasol yn gallu cael eu hanfon nôl. Fel hwyluswyr y cynllun cyfaill hwn, bydd Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn llunio cytundeb, a bydd y myfyriwr yn ei lofnodi, sy’n eu hymrwymo i nifer pendant o ddarnau o ohebiaeth y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Mae hefyd yn bwysig fod yr Athrawon Ieithoedd yn darparu adborth i’r Myfyriwr. Nid yw'r myfyriwr wedi cael eu hyfforddi fel athro/athrawes, ac felly, maent yn gwerthfawrogi arweiniad trwy gydol y flwyddyn o ran yr adnoddau maen nhw’n eu hanfon.

Mae'n bwysig eich bod yn sylwi nad yw'r myfyrwyr wedi cael eu gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Fodd bynnag, ni fydd Myfyrwyr byth yn cyfateb yn uniongyrchol gyda'r disgyblion. Yr Athro/Athrawes Ieithoedd fydd yn gweithredu fel y pwynt cyswllt ar ran y dosbarth.

Dim ond nifer cyfyng o lefydd sydd ar gael ar y cynllun hwn, a bydd llefydd yn cael eu dyfarnu ar gyfer pob iaith yn ôl y system y cyntaf i’r felin. Rydym yn gallu cynnig cysylltiadau ar gyfer dosbarthiadau sy'n astudio Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Os hoffech gofrestru i gymryd rhan yng nghynllun ‘Mabwysiadu Dosbarth’, lawrlwythwch y ffurflen gofrestru isod, a’i hanfon yn ôl i routescymru@ciltcymru.org.uk erbyn DYDD GWENER, 15fed EBRILL 2011.
 

Attachments: