I ddathlu’r Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd, rydym wedi penderfynu creu papur newydd amlieithog enfawr. Rydym angen eich help i wneud hynny!
I gyfrannu, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu erthygl, adolygiad, horosgop, cyfweliad, stribed comig neu unrhyw beth arall rydych chi’n meddwl y gallech ddod o hyd iddo mewn papur newydd. Yr unig amod yw bod angen iddo fod mewn iaith wahanol i'r un rydych chi’n ei siarad gartref. Rhowch eich enw, eich oedran, eich ysgol a’r iaith rydych chi’n ei siarad gartref ar ddiwedd eich erthygl.
Bydd y cylchlythyr yn cael ei arddangos yn nathliadau ein diwrnod Llawn Hwyl i’r Teulu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 24ain Medi 2011, 10yb - 1.30yh.
Dylid anfon yr holl ddarnau i Bapur Newydd y Diwrnod Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd, CILT Cymru, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener, 16eg Medi 2011.
Ymunwch gyda ni a gweddill Ewrop i ddathlu ieithoedd!