Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

CYSTADLEUAETH SIARAD TSIEINËEG MANDARIN HSBC/BRITISH COUNCIL

Date: 
Tuesday, 27 September, 2011 - 01:00 to Friday, 14 October, 2011 - 01:00
Region: 
Wales / Cymru

 A yw eich ysgol yn addysgu Tsieinëeg Mandarin? Cofrestrwch eich myfyrwyr ar gyfer Cystadleuaeth Siarad Tsieinëeg Mandarin HSBC/y British Council a gallent ennill taith i Beijing ym mis Ebrill 2012!


Mae'r gystadleuaeth, sy'n cynnwys adrannau Gallu Iaith Unigol a Pherfformiad Grŵp, ar agor i fyfyrwyr mewn ysgolion uwchradd, colegau chweched dosbarth ac addysg bellach yn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, sy'n dysgu Tsieinëeg Mandarin ond nad ydynt yn siaradwyr brodorol.

Cynhelir y rowndiau rhanbarthol yn Newcastle ar 6 Rhagfyr 2011 ac yn Llundain ar 16 Rhagfyr 2011 a chynhelir y rownd derfynol yn y British Museum yn Llundain ar 10 Chwefror 2012. Ymweliad diwylliannol wythnos o hyd i Beijing ym mis Ebrill 2012 yw'r wobr i'r myfyrwyr buddugol a'r athro o'u hysgol.

Byddai'n wych pe bai amrywiaeth eang o ysgolion ledled y DU yn cymryd rhan ac mae croeso i ysgolion newydd gystadlu, hyd yn oed os mai dim ond yn ddiweddar rydych wedi dechrau addysgu Mandarin. Yn ogystal â rhoi cyfle i'ch myfyriwr/myfyrwyr ennill y wobr, mae'r gystadleuaeth yn ffordd arbennig o gydnabod a dathlu ymrwymiad eich ysgol i'r gwaith o addysgu a dysgu Mandarin.
 

Mae manylion gwneud cais a thelerau ac amodau llawn ar gael yn www.britishcouncil.org/schoolpartnerships-chinese-speaking-competition.htm  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 13 Hydref 2011.

Os bydd gennych ymholiadau, cysylltwch â'r British Council: Ffôn: 0161 957 7755; E-bost: chinaschools@britishcouncil.org