Fel rhan o’n dathliadau ar gyfer y Flwyddyn Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd, rydym yn lansio Cystadleuaeth 'Spelling Bee' Genedlaetholi Flwyddyn 7 eleni. Bydd y gystadleuaeth unwaith eto ar agor i ddisgyblion Blwyddyn 7 sy’n dysgu Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg 2il Iaith.
I gofrestru, llenwch y ffurflen gofrestru a dychwelwch hi i dîm Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX routescymru@ciltcymru.org.uk. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gofrestru gan glicio yma.
Bydd y Pecyn i Athrawon, sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynglŷn â’r gystadleuaeth a dyddiadau allweddol, ar gael i’w lawrlwytho gan glicio yma.
Gellir lawrlwytho'r geiriau o dudalen adnoddau’r wefan. Yma gallwch hefyd ddod o hyd i’r PowerPoints ar gyfer ymarfer.
Cawsom lawr o hwyl yn rhedeg y gystadleuaeth hon eleni a chafodd y disgyblion a gymerodd ran hwyl hefyd yn ogystal â gwella eu geirfa a sillafu yn aruthrol mewn iaith newydd. Gobeithiwn y gallwn weithio gyda hyd yn oed fwy o ysgolion eleni er mwyn cael cystadleuaeth mor gyffrous ag y bo modd!
POB LWC!