Mae Cystadleuaeth Y Spelling Bee 2012-2013 wedi ei lansio.
Er mwyn cofrestri, llenwch y dudalen gofrestri a’i ddanfon yn ôl at dîm Llwybrau at Ieithoedd Cymru, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX. routescymru@ciltcymru.org.uk. Gallwch lawr lwytho’r ffurflen gofrestri drwy glicio yma.
Gall lawrlwytho’r Pecyn Athrawon, sy’n cynnwys manylion pellach ynglŷn â’r gystadleuaeth ynghyd a dyddiadau pwysig, trwy glicio yma.
Mae modd lawrlwytho’r geiriau o’n tudalen adnoddau ar ein gwefan.
Roedd cystadleuaeth llynedd yn wych, fe gawsom lawer o hwyl yn y cystadlaethau Rhanbarthol. Cynhaliwyd y Rownd Derfynol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac roedd safon y sillafu'r un mor uchel os nad yn uwch na safon y flwyddyn gynt. Mae canlyniadau’r gystadleuaeth ar gael yma, neu os hoffech weld lluniau o’r digwyddiad, cliciwch yma.
Gobeithiwn y bydd hyd yn oed mwy o ysgolion yn ymuno â ni eleni, peidiwch ag oedi, cofrestrwch nawr.
POB LWC!
Nodwch - mae’r geiriau yma yn unigryw i’r gystadleuaeth yng Nghymru ac eleni mae’r geiriau yn gwbl newydd. Lawr lwythwch y rhestr newydd o eiriau o’n gwefan. Peidiwch â defnyddio adnoddau o’r blynyddoedd blaenorol.
Am wybodaeth ynghylch y gystadleuaeth yn Lloegr, cliciwch yma - www.flspellingbee.co.uk