Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

Mamiaith Ail Iaith 2013

Date: 
Friday, 22 March, 2013 - 00:00 to Friday, 24 May, 2013 - 01:00
Region: 
Wales / Cymru
Location: 
Cymru

Rydym yn llawn cyffro i lansio cystadleuaeth farddoni amlieithog newydd sbon yng Nghymru, o’r enw Mamiaith Ail Iaith 2013. Bydd y gystadleuaeth hon yn rhoi cyfle i bobl ifanc ledled y wlad ddathlu ieithoedd eu cartref, ynghyd â bod yn greadigol gyda’r ieithoedd eraill maen nhw’n eu dysgu yn yr ysgol.

 

Cynhaliwyd y gystadleuaeth hon ym Manceinion llynedd, ac roedd yn gymaint o lwyddiant fel bod Bardd y Frenhines ym Mhrydain, Carol Ann Duffy, wedi mabwysiadu’r prosiect hwn fel Prosiect Addysg Llawryfog y Deyrnas Unedig, ac mae’n annog pob unigolyn ifanc ledled y Deyrnas Unedig i gymryd rhan.  Yng Nghymru, rydym yn ffodus iawn o gael cefnogaeth gan ein Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke, ynghyd â’r bardd amlieithog, Mererid Hopwood.

 

Drwy gydweithio â Llenyddiaeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd, rydym yn dod â’r gystadleuaeth hon i sylw pobl ifanc Cymru.  Am ragor o fanylion ynghylch y gystadleuaeth, darllenwch y daflen SUT I YMGEISIO. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw dydd Gwener, 24 Mai 2013.

 

Gallwch ddefnyddio’r poster hwn i annog pobl ifanc i gymryd rhan.

 

Bydd y cynigion buddugol yn cael eu harddangos yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf, ac fe fyddan nhw hefyd yn cael cyfle i gynrychioli Cymru mewn Digwyddiad Dathlu Prydeinig ym Manceinion yn yr hydref.

 

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni:
routescymru@ciltcymru.org.uk
029 2026 5408

 

Gyda’n gilydd, fe wnawn ni godi proffil ieithoedd ac annog pobl ifanc i ymfalchïo mewn bod yn amlieithog.

Taflen Cyflwyno Cynigion