Skip to main content

 

The new Routes into Languages website is currently in development and will be launching in the new year!

 

Promoting the take-up of languages and student mobility

Lansiad Cystadleuaeth Genedlaethol y Spelling Bee 2014 ac Adnodd Newydd

Date: 
Thursday, 26 September, 2013 - 01:00 to Friday, 18 July, 2014 - 01:00
Region: 
Wales / Cymru
Location: 
Cymru

 

Heddiw rydym yn lansio Cystadleuaeth Genedlaethol y Spelling Bee ble gwelir disgyblion blwyddyn 7 dros Gymru gyfan yn cystadlu yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg Ail Iaith gyda'r nod o ennill teitl Pencampwr y Spelling Bee Cenedlaethol 2014. Mae'n hynod o gyffrous eleni gan fod yna amrywiaeth o adnoddau i gefnogi'r myfyrwyr sy’n astudio'r ieithoedd yma ac yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Genedlaethol y Spelling Bee wedi cael eu datblygu ac fe ellir gweld y rhain ar Wefan Newydd y Spelling Bee.

 

Fei crëwyd gan Adran Adnoddau Addysgol CBAC ar gyfer Llwybrau at Ieithoedd Cymru. Maent yn cynnwys gweithgareddau i ddysgu’r wyddor yn yr iaith darged, gemau geiriau a phrofion sillafu gyda’r nod o wella sillafi, annog ynganiad cywir a chodi hyder. Yn ogystal â hyn, mae yna adran ble y gall myfyrwyr ymarfer fel petaent yn y gystadleuaeth.

 

I gofrestri, ewch at yr Adnoddau a Dogfennau i Athrawon a dewisiwch Ffurflen Gofrestru'r Spelling Bee 2013-14. Danfonwch eich ffurflenni at:

 

Cystadleuaeth y Spelling Bee 2013/2014
Llwybrau at Ieithoedd Cymru
245 Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd CF5 2YX

routescymru@ciltcymru.org.uk

Facs: 029 2026 5411