Date: 15th September, 2010 (All day)
Type: Conference
Location: Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe
Travel directions
Map
Y nod yw hysbysu myfyrwyr blynyddoedd 11 i 13 yn ogystal â’u hathrawon a’u cynghorwyr
gyrfaoedd, am y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i astudio Ieithoedd Modern, gan gynnwys
BA mewn Cyfieithu. Gellir astudio ieithoedd fel pwnc ‘pur’ neu ar y cyd gyda nifer fawr o
bynciau eraill, ac (ar wahân i Ffrangeg), gallant gael eu hastudio ar lefel dechreuwyr, neu ar
ôl ennill cymhwyster Safon Uwch, Safon Uwch Gyfrannol neu TGAU.
Mae cyflogadwyedd yn un o themâu'r dydd, ynghyd â chwilfrydedd a mwynhad a’r gallu i
gyfuno Ieithoedd Tramor gyd phob math o bynciau gradd eraill.
Cynhelir gweithdai ar gyfer Blynyddoedd 11-13 sy’n dangos yr ystod o brofiadau dysgu
rydym yn gynnig. Bydd myfyrwyr sy’n dychwelyd o’u blwyddyn dramor yn adrodd eu straeon.
Hefyd, cynhelir cwpwl o sesiynau i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd; ceir cyfle i gael
sgwrs gydag aelodau o’n timau recriwtio, derbyniadau, a’n timau cyswllt ysgolion/colegau, a
gyda chydweithwyr eraill.
Mae’r digwyddiad am ddim. Byddwn yn darparu te/coffi ar gyfer egwyl y bore, a bydd bwffe
i’r staff yn ystod amser cinio- yn ogystal ag arddangosfa dawnsio salsa!
Gweler y rhaglen wedi’i atodi am fanylion. A fyddech gystal â rhoi gwybod i ni erbyn Awst 13eg os ydych yn bwriadu dod, a rhoi amcangyfrif o niferoedd. Mae ffurflen ymateb wedi'i hatodi. Gallwch ymateb drwy anfon e-bost i Kat Jennings: k.jennings@swansea.ac.uk