Llysgenhadon Ieithoedd

Rydym wedi hyfforddi tîm o israddedigion ieithoedd brwd i weithio gyda ni, a gyda chi, er mwyn helpu dangos nid yn unig pwysigrwydd parhau gyda’ch ieithoedd, ond hefyd yr hwyl a ellid ei gael.
 

Mae gennym ni fyfyrwyr ym Mhrifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe, Caerdydd a Morgannwg sy’n barod i ddod i ymweld â’ch ysgol. Isod gwelwch gasgliad o broffilau myfyrwyr.

Os hoffech chi i Lysgennad Iaith i ddod i’ch ysgol chi i siarad â’r disgyblion ynglŷn â’u profiadau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
 

Aberystwyth

Enw: Claire Stewart

Oedran: 18

O ble? Milton Keynes, Sir Buckingham.

Gradd: Blwyddyn gyntaf cwrs gradd: Ieithoedd Ewropeaidd

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Ieithoedd: Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg

Sut ddysgaist ti’r ieithoedd yma: Astudiais Ffrangeg ac Eidaleg ar gyfer TGAU ac yna Lefel A. Es ati wedyn i gario mlaen gyda’r rhain, a Sbaeneg dechreuwr yn y Brifysgol.

Beth yw’r peth gorau am dy brifysgol? Mae Aberystwyth yn le da i fod yn fyfyriwr, digon tawel i allu gweithio, ond lle da am noson allan hefyd! Rwy’n cwrdd ag amrywiaeth eang o bobl gan fod llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yma.

Beth wyt ti am ei wneud wedi gadael y Brifysgol? Os na fyddai’n cyfieithu / cyfieithu ar y pryd, hoffwn unai ddysgu Saesneg fel ail iaith neu gyfuno fy ieithoedd gyda gwaith cymdeithasol a chwnsela pobl ifanc.

 

Enw: Paul Tebbs
Oedran: 19
Cenedl: Prydeinig
Ieithoedd: Ffrangeg
Prifysgol: Aberystwyth
Cwrs: Marchnata gyda Ffrangeg

Pam benderfynaist ti astudio ieithoedd ar gyfer Lefel AS ac A?
Ni ddewisias Ffrangeg ar gyfer Lefel A am fy mod yn arbennig o dda yn y pwnc. Cefais radd B yn y rhan fwyaf o bynciau TGAU ac felly roedd dewis beth i’w wneud ar gyfer Lefel A yn anodd. Dewisais Ffrangeg am fy mod wedi mwynhau’r pwnc hyd lefel TGAU. Bu’r naid i Lefel AS yn dipyn o sioc, a theimlais fod pawb arall yn y dosbarth yn cael gwell hwyl ar yr iaith na fi. Bu bron i mi dynnu allan o’r cwrs, a bu’r misoedd cyntaf yn strygl. Yn raddol, dechreuais feddwl yn fwy cadarnhaol am y cwrs, a pheidio a meddwl mod i’n mynd i fethu’r cwrs. Dechreuodd bethau wneud synnwyr i mi, a derbyniais radd B ar gyfer A2, ac yr oeddwn yn falch o hynny.

Pam benderfyniast ti astudio ieithoedd yn y Brifysgol?
Ffactor bwysig yn y ffaith i mi ddewis astudio Ffrangeg yn y Brifysgol oedd y trip cyfnewid i Ffranc y bum arno pan yn 13 oed. Yr oeddwn wedi bod yn Ffrainc o’r blaen pan yn blentyn, ond bach iawn oedd fy ngeirfa Ffrangeg, a’r trip cyfnewid oedd y cyfle cyntaf i fi allu defnyddio fy Ffrangeg o ddifrif. Ces i amser gwych a gwnes lawer o ffrindiau da. Gwellodd fy Ffrangeg a deuais yn ol yn llawn brwdfrydedd am yr iaith, ac yn benderfynnol o ddod yn rhugl.


Pa bynciau eraill y gellir eu hastudio ar y cyd gyda ieithoedd yn y brifysgol?
Yn amlwg, mae hyn yn dibynnu ar y brifysgol a’r ieithoedd yr ydych am eu hastudio, ond mae’r rhestr yn hirfaith. Nid oeddwn i’n ymwybodol o hyn pan ddewisais Marchnata ar y dechrau. Pan sylweddolais y gallwn astudio Ffrangeg ar y cyd a Marchnata, neidais am y cyfle, a newid i gynllun cwrs Marchnata Prif a Ffrangeg Is. Golyga hyn fod traean o fy nghwrs wedi ei neilltuo ar gyfer Ffrangeg, ond mae posib astudio gradd gyfun sydd yn 50/50, neu weithiau, gellir astudio 3 iaith.
 

Caerdydd

Enw: Rosie Shimmin
Oedran: 22
O ble?: Carlisle, Cumbria
Blwyddyn Gradd: Olaf
Cwrs Gradd: Cyfun Almaeneg a Gwleidyddiaeth
Prifysgol: Caerdydd
Ieithoedd: Almaeneg

Pam ddewisest ti astudio ieithoedd?
Dwi’n caru Almaeneg; mae’n swnio mor ddoniol, ac yn edrych mor resymegol. Hyd at flwyddyn 11, yr oeddem yn dysgu ieithoedd er mwyn llwyddo mewn arholiad, ond unwaith yn y 6ed dosbarth, agorwyd fy llygaid i fyd tu hwnt i arholiadau. Annogwyd ni edrych ar lenyddiaeth yr Almaen, ei diwylliant a’i hanes, a death yr iaith i fod yn allwedd i fyd newydd yn hytrach na phwnc i’w astudio yn yr ysgol. Nid oedd yn hawdd fod bynnag, ac er i mi weithio’n galed tuag at fy Lefel A, gwyddwn fod llawer mwy i’w ddysgu, felly penderfynais barhau i astudio Almaeneg yn y brifysgol.

Beth wenst ti yn ystod dy flwyddyn allan?
Es i Mainz yn yr Almaen, sydd yn agos i Frankfurt. Yr oeddwn yn fyfyrwraig Erasmus am flwyddyn, a ces i amser anhygoel. Yr oeddwn yn mynd I’r brifysgol, ac yn astudio modiwlau mewn Gwleidyddiaeth ac astudiaethau Theatr, a cefais fynd ar wibdiath i Berlin. Yr oedd gen i hefyd swydd rhan amser mewn café hyfryd, ro’n I’n canu mewn cor ac yn chwarae mewn Band Oompa almaeneg – GWYCH! Yr oeddwn wrth fy modd yn siarad Almaeneg, yr oedd fel y darn olaf yn y jigso. Yr oeddwn I’n sgwrsio’n braf yn Almaeneg, ac yr oedd pobl yn fy neall i! Teimlai fel petae gennyf bŵer arbennig!

Beth hoffet ti ei wneud wedi gadael y brifysgol, a pham?
Dim syniad, mae gymaint o opsiynnau ar gael os oes ail iaith gennyt. Efallai yr af yn ôl i’r Almaen ar gynllun cynorthwyo athrawon, neu efallai y gwnaf gwrs TEFL. Mae gennyf awydd dysgu Ffrangeg hefyd.

Oes gen ti gyngor ar gyfer rhai sy’n astudio ieithoedd?
Paid â phoeni, cymra ddiddordeb, dyna’i gyd. Nid wyf yn ieithydd o bell ffordd. Edrycha y tu hwnt i’r iaith yr wyt yn ei hastudio. Mae’n bwysig sylweddoli mai sgil yw siarad iaith, sgil fel mynd ar gefn beic, yn hytrach na phwnc i’w ddysgu yn yr ysgol. Mae bod â diddordeb yn y diwylliant yn helpu, ac mae’n bwysig sylweddoli nad yw ‘tramor’ yn golygu ‘arallfydol’! Mae ieithoedd yn agor drysau, ac yn rhoi golwg arall ar fywyd bob dydd.

 

Enw: Sophie James
Blwyddyn Gradd: 2il flwyddyn
Gradd: Y Gyfraith ac Almaeneg, Prifysgol Caerdydd
Ieithoedd: Almaeneg, Ffrangeg TGAU a hoffwn ddysgu Sbaeneg!

Pam y dewisaist ti Almaeneg?
Nid fy newis i oedd Almaeneg mewn gwirionedd, yr oedd yn rhan o gwricwlwm yr ysgol ym mlwyddyn 7. Cefais wneud fy TGAU ym mlwyddyn 9 (yn 14 oed) a cefais radd lefel A. Rhoddodd y cyfle i ddysgu iaith yn yr ysgol ddiddordeb yn yr iaith yn gynnar iawn imi, ac rwy’n ddiolchgar iawn o hynny erbyn hyn.

Pa mor wahanol oedd symud o lefel TGAU at Lefel A?
Dyma’r cam nesaf mewn dysgu iaith, cael eich cyflwyno i bynciau newydd mwy o dermau gramadegol. Yr oedd hyn yn anodd iawn i mi, gan fy mod yn dysgu’r iaith yn y coleg yn unig, drwy gyfrwng fideo-gynhadledda gydag athro o goleg 6ed dosbarth arall. Yr oedd hyn yn anodd, a dim ond yr athro Ffrangeg i’m cynorthwyo! Er hyn, ro’n i’n benderfynol o wella fy iaith a chario mlaen gyda’r gwersi.

Beth yw’r atgof mwyaf hunllefus o dy lefel A?
Sefyll arholiad lefel A 3 awr ar fy mhen fy hun – syrthiodd yr arholwr i gysgu!
 

Pam benderfynaist ti astudio ieithoedd yn y brifysgol?
Yn wreiddiol, yr oeddwn am astudio’r Gyfraith, ond nid oeddwn am golli fy Almaeneg felly roedd yr opsiwn o astudio’r Gyfraith ar y cyd ag Almaeneg ym mhrifysgol Caerdydd yn ddeniadol iawn i mi. Wrth gwrs, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, teimlais y byddai ail iaith gyda’r Gyfraith yn rhoi mantais imi wrth gystadlu ag israddedigion eraill.
 

Beth fyddai dy neges di i rai sy’n pendroni ynglyn ag astudio iaith yn y brifysgol?
Dos amdani, paid bod ofn. Mae digon o brifysgolion sy’n cynnig iaith ar y cyd a phwnc arall megis astudiaethau busnes neu Saesneg. Mae’n hawdd cael hwyl wrth ddysgu iaith, drwy wrando ar gerddoriaeth neu wylio sioeau teledu arlein ayyb. Mae hyn yn ffordd dda o ehangu’ch geirfa. Nid cymwyster gradd, lefel A neu TGAU yn unig yw iaith. Mae’n allweddi i gyfleon newydd, cyfleon y tu hwnt i’ch breuddwydion.
 

Fy enw i yw Kate Samways ac rwy’n dod yn wreiddiol o Bromsgrove, sydd ryw 20 munud tu fas i Firmingham. Dechreuais i ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol ganol pan roeddwn ym mlwyddyn , ac i fod yn onest fe wnes i ffeindio hi’n anodd ond fe wnes i fwynhau’r her. Yn yr ysgol uwchradd fe astudiais Ffrangeg a Lladin hyd nes TGAu gyda sesiynau arbrofol yn Sbaeneg ac Almaeneg- fe wnes i eu mwynhau i gyd, ond darganfyddais i fod Lladin yn sicr yn rhywbeth sy’n rhaid chi lynnu ato! Fe wnes i wedyn gael Lefel A mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Ffrangeg a Drama a chefais Lefel AS yn Lladin a thystysgrif mewn siarad Eidaleg ond credaf i fod gwraidd fy hoffter mewn cerddoriaeth yn dod o’m cefndir mewn Cerddoriaeth. Ces i fantais fawr- diolch i’m mam, a oedd yn athrawes gerdd ac felly fe wnaeth annog fi chwarae offerynnau pan oeddwn yn ifanc a chredaf fod fy ngallu i siarad a deall ( a dynwared beth ddwi’n clywed siaradwr iaith gyntaf yn ei wneud!).


Yn wreiddiol fe wnes ymrestru i astudio Ffrangeg a Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ond wedi cymryd Eidaleg fel pwnc ‘ychwanegol’ yn fy mlwyddyn gyntaf, fe benderfynais i barhau gyda’r ddwy iaith ac roeddwn yn hapus iawn fy mod wedi gwneud gan fod hyn yn golygu fy mod ddim yn unig yn cael mynd ar flwyddyn Erasmus, ond roeddwn yn cael mynd i ddwy wlad anhygoel a chael dau brofiad hollol wahannol dramor. Am yr hanner cyntaf fe gyflawnais leoliad gwaith mewn sefydliad TG ar gyfer oedolion anabl mewn ardal wledig o Dde Ffrainc. Yna fe dreuliais y gwanwyn a’r mwyafrif o haf (poeth iawn) yn Venice a oedd yn le prydferth ac yn agoriad llygaid.


Rwyf i nawr yn astudio yn fy mlwyddyn olaf ac rwy’n difaru dim fy mod wedi gwneud gradd mewn ieithoedd ac rwyf i’n wirioneddol edych ymlaen at gael mynd i’m darlithoedd... na wir, dwi yn. Yn rhai ohonynt rwyf i hyd yn oed yn cael gwylio ffilmiau sydd ar yr un pryd yn dysgu fi am ddiwylliant ac iaith, ond sydd hefyd yn gwneud i mi chwerthin... pwy sen meddwl?


Wedi’r Brifysgol rwy’n gobeithio defnyddio rhai o’r sgiliau rwyf i wedi ennill drwy radd mewn iaith i weithio yn y maes darlledu gan fy mod yn teimlo fod astudio nid yn unig yn y Brifysgol ond hefyd dramor wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu a rhoi llawr iawn o annibyniaeth i mi.