Cymru

Languages outreach in your area

Languages

Cymru events archive

Cymru, Ewrop a'r Byd

This event is now fully booked

Summary

Mae Cymru, Ewrop a’r Byd yn amlygu cysylltiadau Ewropeaidd a byd-eang Cymru ac yn cynorthwyo eich disgyblion i ddarganfod mwy am weithio, astudio a theithio yn Ewrop ac ymhellach, tra’n defnyddio eu hieithoedd i’w galluogi i wneud y mwyaf o’u profiad. Agorwch eu llygaid i fyd sy’n llawn cyfleoedd …

Bydd y ffair ac arddangosfa undydd yma AM DDIM, ac yn cynnig ystod eang o sesiynau gwybodaeth a gweithdai wedi’u hanelu at ddisgyblion 14-19 mlwydd oed. Bydd y rhain yn cynnwys cerddoriaeth, dawns, gyrfaoedd, sesiynau blasu iaith a gwybodaeth ddefnyddiol am astudio a gweithio dramor. Bydd digon o weithdai ymarferol i gadw pawb yn brysur yn ystod y dydd! Bydd bwffe ar gael AM DDIM.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi dynodi 2010 yn Flwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Goresgyn Tlodi ac Allgàu Cymdeithasol (EY2010) a dyma fydd ein thema allweddol drwy gydol digwyddiad Cymru yn Ewrop 2010 yng Nghaerdydd. Bydd gweithgareddau arbennig wedi eu neilltuo ar gyfer materion megis gwirfoddoli, hawliau dynol ac ymdrechion yr UE i oresgyn tlodi, yma yn y DU a thramor. Bydd sesiynnau eraill yn trafod pynciau megis cyfnewid myfyrwyr, sgiliau cyflogadwyedd a dysgu ieithoedd. Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o weithgareddau UE 2010 sy’n cael eu trefnu yng Nghymru, gan – ymhlith eraill – Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Am fwy o fanylion a gwybodaeth cofrestru, cysylltwch â CILT Cymru, Llawr 1af, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL. Rhif ffôn: 02920 480137 neu anfonwch e-bost at: routescymru@ciltcymru.org.uk

 

Downloads: