
O’i fagu mewn cartref Cymraeg yn Abertawe, a chael mam oedd yn athrawes ieithoedd tramor, daeth Ceri yn ymwybodol o bwysigrwydd ieithoedd yn ifanc iawn, a'r anfanteision o siarad un iaith yn unig. Ar ôl astudio Ffrangeg ac Almaeneg (Cydanrhydedd) yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, cafodd Ceri ei swydd gyntaf fel athro mewn ysgol gyfun yn Swydd Rhydychen. Yn ddiweddarach, daeth yn Bennaeth ITM mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ne Cymru.
Ym 1989 rhoddodd orau i’w rôl fel athro, gan ymuno â Chydbwyllgor Addysg Cymru fel swyddog arholiadau (TGAU a Safon Uwch), a datblygwr adnoddau addysgu ar gyfer ITM. Yn ystod ei gyfnod gyda CBAC, ymunodd hefyd â’r Uned Ewropeaidd yno, gan lwyddo i wneud cais am, a rheoli nifer o brosiectau Socrates rhyngwladol. Yn y 1990au hwyr, dechreuodd Ceri gydweithio â CILT, a bu’n gweithio'n agos gyda’r diweddar Peter Boaks i gyflwyno Canolfan Comenius Genedlaethol Cymru i CBAC, UWIC a Phrifysgol Cymru, Bangor. Dechreuodd Ceri weithio i CILT ym 1999, ac roedd yn falch iawn pan lansiwyd CILT Cymru yn 2002, ‘adain gyflenwi’ strategaeth gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ITM.
Daeth Ceri yn Gyfarwyddwr CILT Cymru yn 2004, ac mae’n arwain tîm bychan ond deinamig ym Mae Caerdydd. Mae'n parhau i gredu’n fawr yng ngwerth dysgu ieithoedd, a'r cyfraniad y gallant wneud o ran datblygu unigolion a chymdeithasau medrus, symudol a goddefgar. Ar lefel bersonol fodd bynnag, mae'n cyfaddef nad yw dysgu Pwyleg mor hawdd ag y gallai wedi bod 30 mlynedd yn ôl!

Llwybrau at Ieithoedd Cymru, Rheolwr Prosiect
Mae Ellie wedi cael diddordeb brwd mewn ieithoedd erioed, a gychwynnodd mwy na thebyg wrth fynd ar wyliau pob blwyddyn fel plentyn i Ffrainc. Mae cael addysg yng Nghymru mewn amgylchedd dwyieithog wedi helpu hefyd!
Fe raddiodd hi mewn Ffrangeg ac Eidaleg, a defnyddiodd ei hastudiaethau fel esgus i deithio dramor yn fwy aml. Fel rhan o’i gradd, cafodd y cyfle i dreulio 6 mis yn Salerno, yr Eidal ac yna, 6 mis yn Nantes, Ffrainc fel myfyrwraig Erasmus, oedd yn brofiad anghofiadwy. Gan iddi astudio Eidaleg ab initio, fe dreuliodd hi un haf hefyd yn astudio yn Università Per Stranieri yn Perugia.
Ar ôl iddi hi raddio, bu Ellie’n gweithio am 3 mlynedd yn yr Adran Addysg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, lle gwnaeth hi wella ei Chymraeg ac ymarfer ei Ffrangeg yn rheolaidd gyda’r ymwelwyr.
Nawr, yn ei rôl fel Rheolwr Prosiect, mae Ellie’n gyffrous am y sialensiau y bydd y prosiect yma’n cyflwyno:
“Rwy’n hapus iawn i ymuno â thîm CILT Cymru i reoli’r prosiect newydd cyffrous yma yng Nghymru. Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i dynnu sylw pobl ifanc, nid yn unig at y sgiliau rydych chi’n ennill wrth ddysgu iaith, ond hefyd, at y nifer o gyfleodd gwych sydd yn sydyn ar gael i chi. Rwy’n gobeithio rhannu fy mrwdfrydedd hyd orau fy ngallu!”

Cydlynydd Prosiect

Swyddog Cynorthwyo Prosiect

Swyddog Cynorthwyo Prosiect