Cymru

Cymorth ar gyfer ieithoedd yn eich ardal chi

Languages

Newyddion o Gymru

Cynorthwywyr Ieithoedd Modern (CIM) Erasmus

Dyddiad: 17th January 2012

Ers mis Hydref mae pymtheg o fyfyrwyr Erasmus o’r Almaen, Ffrainc, yr Eidal a Sbaen yn gweithio fel cynorthwywyr iaith yng ngogledd Cymru, wedi iddynt ddewis dilyn y Modiwl CIM fel rhan o’u cwrs ym Mhrifysgol Bangor. Mae rhai wedi’u lleoli yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mangor ei hun, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio mewn ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth.

Clwb Iaith

Dyddiad: 17th January 2012

Mae Clwb iaith newydd Prifysgol Bangor yn cynnig cyfle newydd i fyfyrwyr iaith y brifysgol ddod i adnabod diwylliannau ac ieithoedd tramor, yn ogystal â dod i adnabod ei gilydd a bod yn rhan o gymuned. Fis Medi, yn ystod serendipity, ffair clybiau a chymdeithasau'r brifysgol, cofnododd mwy na 100 o fyfyrwyr eu diddordeb yn y gymdeithas. Roedd cardiau post Llwybrau at Ieithoedd yn boblogaidd iawn, ac yn sbardun i nifer o sgyrsiau mewn ieithoedd newydd ymysg criwiau o ffrindiau.

Older news