
Gallwch lawrlwytho geiriau CYFNOD 1 gan glicio ar yr iaith
Gallwch lawrlwytho geiriau CYFNOD 2 gan glicio ar yr iaith
Gallwch lawrlwytho PowerPoint ar gyfer ymarfer gan glicio ar yr iaith
Yma yn Llwybrau at Ieithoedd Cymru rydym yn awyddus iawn i bobl o bob oedran i roi cynnig ar ieithoedd. Dyma pam rydym ni wedi datblygu cyfres o gardiau post sydd â brawddegau defnyddiol. Ar hyn y bryd mae Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg a Japaneeg yn y gyfres, sydd i gyd yn ieithoedd y gallwch eu hastudio mewn Prifysgolion yng Nghymru.
Mae’r delweddau yr ydym wedi eu dewis yn cynrychioli’r ieithoedd hyn ac yn lliwgar a deniadol. Ar y cefn, mae pob carden yn cynnig brawddegau megis Shw’ mae?, Diolch, a Allwch chi helpu fi? Mae hefyd gwagle i chi ysgrifennu unrhyw eiriau newydd yr ydych yn dysgu os ydych chi'n ymweld â’r wlad.
Mae’r cardiau post wedi bod yn boblogaidd iawn ym mhob un o’m digwyddiadau ac maent wedi bod yn destun sawl trafodaeth ddiddorol. Yn aml iawn byddwn yn gofyn i blant feddwl am gynifer y gwledydd y gallant lle byddai’r cerdyn yn ddefnyddiol. Rydym hefyd yn eu defnyddio fel anogaeth ar gyfer ein gweithgaredd ‘dylunio bag eich hun’ ac roedd y cardiau Almaeneg a Sbaeneg yn eithriadol o boblogaeth yn ystod rown derfynol Cwpan Y Byd yn haf 2010.
Gallwch lawr lwytho eich copïau:
Mae Llwybrau at Ieithoedd wedi bod yn chwilio am ieithyddion ledled y wlad ac wedi cynhyrchu’r gyfrol newydd hon o ‘Broffiliau gan Lysgenhadon Ieithoedd.’ Mae’r bobl hyn yn defnyddio eu hieithoedd bob dydd mewn ystod eang o swyddi o Gysylltiadau Rhyngwladol i Fancio Corfforaethol. Lawr lwythwch yr adnodd newydd arbennig hwn i ddysgu sut mae ieithoedd wedi bod yn gymorth iddynt yn eu gyrfaoedd a’u bywydau personol. Mae’n bosib y byddant yn eich cyflwyno i swyddi doeddech chi ddim yn ymwybodol eu bod yn gysylltiedig ag ieithoedd!
Os ydych chi’n defnyddio’ch ieithoedd yn eich swydd, yn teimlo’n gryf dros ysbrydoli eraill i wneud yr un peth a hoffech chi fod yn Llysgennad Iaith, cysylltwch â ni routescymru@ciltcymru.org.uk
Geirfa ffilm - taflenni i'w lawrlwytho / argraffu:
Almaeneg / Cymraeg Ffrangeg / Cymraeg Sbaeneg / Cymraeg
Mae gwefan Film Education yn cynnwys adnoddau addysgu / dysgu ar gyfer ystod eang o ffilmiau gan gynnwys:
Amélie Les Choristes La Haine
Good Bye Lenin Die Fetten Jahre sind vorbei
El Laberinto del fauno
Mae Sefydliad Ffilm Iwerddon wedi creu canllawiau astudio ar gyfer nifer o ffilmiau Ffrangeg ac Almaeneg. Mae'r rhain yn cynnwys:
Jenseits der Stille Good Bye Lenin Die fetten Jahre sind vorbei
Fel rhan o'r cynllun Collège au cinéma mae'r Centre National de la Cinématographie (CNC) wedi creu cyfres o dossiers pédagogiques ar gyfer dros hanner cant o ffilmiau, gan gynnwys: Le Grand Voyage.
Mae gwefan Cinéma[s] LE FRANCE yn cynnig canllawiau astudio (yn Ffrangeg) ar gyfer dros fil o ffilmiau o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen a Sbaen. Mae’r rhestr yn cynnwys:
Au revoir les enfants Amélie Le Grand Voyage
¡Ay, Carmela! Belle Epoque Secretos del corazón
El Laberinto del fauno Mujeres al borde de un ataque de nervios
Mae gwefan GCaD Cymru yn cynnwys adnoddau cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno, dadansoddi a thrafod tair ffilm Ffrangeg yn benodol, a ffilm yn gyffredinol . Mae adnoddau’n cynnwys rhestru geirfa, tasgau gwylio wedi’u seilio ar brif themâu’r ffilmiau, a thasgau pellach i ymarfer gramadeg, sgiliau cyfieithu a gwaith ysgrifennu traethodau. Y tair ffilm yw: Amélie, Au revoir les enfants a Les Choristes - fersiwn i'w lawrlwytho.
Mae gwefan Cornerhouse, canolfan ryngwladol ar gyfer celfyddydau gweledol a ffilmiau annibynnol ym Manceinion, yn cynnwys deunyddiau ar gyfer y ffilmiau canlynol:
El Laberinto del fauno La mitad del cielo
Mae gwefan y Goethe-Institut yng ngwledydd Prydain yn cynnwys adran yn ymwneud â ffilm a sinema yn yr Almaen. Mae’r canllawiau astudio yn cynnwys y ffilmiau canlynol::
Good Bye Lenin - yn Almaeneg Die fetten Jahre sind vorbei
Good Bye Lenin - yn Saesneg Jenseits der Stille
Mae español eXtra Cineclub yn cynnig adolygiadau, hysbysluniau, clipiau a thaflenni gwaith ar gyfer ffilmiau o Sbaen ac America Ladin, gan gynnwys: El Laberinto del fauno.
Mae gwefan Gŵyl Ffilmiau Sbaeneg Llundain yn cynnwys cyswllt i Splash into Spanish, casgliad o weithgareddau iaith ar gyfer gwella dealltwriaeth dysgwyr Sbaeneg o’r ffilmiau a ddangosir yn yr ŵyl (2009 a 2010) - gweler y cysylltau ar waelod y dudalen.
Mae gwefan yr Instituto Cervantes yn Llundain yn cynnwys blog yn ymwneud â’r holl ffilmiau o Sbaen ac America Ladin sydd yng nghatalog y llyfrgell.
Cysylltau defnyddiol eraill
Mae Tyneside Cinema wedi cynhyrchu nifer o adnoddau dysgu i’w lawrlwytho.
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi cynhyrchu canllaw cynhwysfawr ar gyfer myfyrwyr a rhieni ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu ieithoedd mewn prifysgolion yng Nghymru.
Mae’r canllaw hwn wedi’i ddylunio i roi gwell syniad i chi o’r opsiynau sydd ar gael i chi, i’ch galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch eich dyfodol gydag ieithoedd. Mae’n cynnig ffeithiau a ffigyrau i chi am ieithoedd a busnes, enghreifftiau o fodiwlau, yn ogystal â strwythurau cyrsiau a gwybodaeth ynghylch y flwyddyn gyffrous dramor. Gallwch hefyd ddarllen am brofiadau rhai myfyrwyr sy’n astudio ieithoedd yn y brifysgol ar hyn o bryd.
Ar y dudalen gefn, ceir awgrymiadau ar le y gallwch ddod o hyd i hyd yn oed fwy o wybodaeth ar astudio ieithoedd yn gyffredinol a hefyd, manylion am y prifysgolion unigol.
Rydym wedi cynhyrchu cyfres o nodiadau i athrawon i gyd fynd â’r adnodd hwn, sy’n cynnig ystod o syniadau am sut y gellir defnyddio’r adnodd hwn i hysbysu disgyblion a chodi proffil ieithoedd yn yr ysgol.
Cyfleoedd i ddysgu ieithoedd - canllaw i fyfyrwyr a rhieni
Cyfleoedd i ddysgu ieithoedd - nodiadau athrawon
Rydym ni wedi datblygu taflen cyhoeddusrwydd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9. Ei nod yw darparu darnau bychan o wybodaeth sy’n amlygu sut byddai ieithoedd o fudd i bobl ifanc.
Os hoffech dderbyn gopi o’r pamffled ar gyfer eich llyfrgell adnoddau, cysylltwch â thîm Llwybrau at Ieithoedd Cymru.
Ieithoedd: Eich llwybr at lwyddiant
Yn dilyn lawnsiad a dosbarthiad ein DVD, Dysgu iaith, byw dramor! Ehangwch eich gorwelion, rydym wedi mynd ati i lan lwytho’r adnodd yma i’r rhyngrwyd ac felly fe fydd nawr cyfle i chi wylio’r holl gyfweliadau a ymddangosir ar y DVD ar ein sianel YouTube.
Maent wedi cael eu lan lwytho’n unigol ac felly er mwyn dod o hyd iddynt, ewch at YouTube, teipiwch ‘RoutesCymru’ ac yna dewisiwch unrhyw ddisgybl. Ar y llaw arall, fe allwch fynd yn syth at unrhyw gyfweliad ar YouTube trwy glicio ar enw’r disgybl oddi tanodd.
Gwenno (Cymraeg)
Gwenno (Saesneg)
Rhian (Cymraeg)
Rhian (Saesneg)
Bethan (Cymraeg)
Bethan (Saesneg)
Hawys (Cymraeg)
Cian (Cymraeg)
Clare (Saesneg)
Samuel (Saesneg)
Sophie (Saesneg)
Kate (Saesneg)
Rick (Saesneg)
Harry (Saesneg)
James (Saesneg)
Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau a chofiwch ‘hoffi’ unrhyw gyfweliad!